Manylion
Cleient/ariannwr:
STFC Nucleus Award
Cyf: ST/X006190/1
Math o waith:
Cyfoethogi gyrfaoedd ar gyfer ysgolion cynradd
Yn ysgolion Cymraeg:
Medi 2024 – Ionawr 2026
Awdur: Gethin Spiller
Diweddaru: 15/04/2024
Ysgolion sy’n cymryd rhan 24-5:
Wrecsam:
Penley Madras PS
Ysgol Sant Dunawd
Morgannwg:
Ysgol Mynydd Bychan
Romilly PS
Ysgol Treganna
Creigaiu PS
Glan Yr Afon PS
Bryn Hafod PS
Ceredigion:
Ysgol Gymunedol Llanilar
Ysgol Gymraeg Tirdeunaw
Ysgol Cei Newydd
Ysgol Bro Pedr
Caerffili:
Ysgol Gymraeg Caerffili
Ysgol Carreg
Sir Ddinbych:
Ysgol Caer Drewyn
Ysgol Carreg
Dyfed:
Ysgol Pum Heol
Ysgol Parcyrhun
Rhondda Cynon Taff:
Pontrhondda PS
Gwent:
Maesycwmmer PS
Cwmaber Schools
Torfaen:
Fire Home Education
A oes diddordeb gennych chi mewn prosiect gyrfaoedd STEM ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5?
Mae’n bleser i wahodd eich ysgol i gymryd rhan yn Person STEM yr Wythnos Cymru – prosiect gyrfaoedd STEM diddorol, sydd ar gael i ysgolion ar draws Cymru. Mae’r prosiect yma, sy’n cael ei gyflwyno gan Science Made Simple mewn partneriaeth gyda nustem (Prifysgol Northumbria), yn anelu at ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd mewn STEM.
Sioe STEM rhyngweithiol: Dechreuwch gyda sioe rhyngweithiol 50-munud i holl ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae’r sioe yn cyflwyno pump model rôl STEM gyda chysylltiadau Cymraeg. Mae’r wyddoniaeth maent yn gweithio arni yn cael ei dangos mewn ffordd hwylus, rhyngweithiol, tra’n adnabod eu nodweddion personoliaeth ac annog y disgyblion i adnabod y nodweddion yma yn eu hunain.
Gweithgareddau dilynnol: Dros bump wythnos, bydd athrawon yn derbyn cardiau a phosteri Person STEM yr Wythnos i helpu cyflwyno’r nodweddion personoliaeth a’r modelau rôl. Byddwch yn annog eich disgyblion i adnabod a dathlu’r nodweddion yma yn eu hunain dros yr wythnos.
Datblygiad proffesiynol: Darparir gweithdy byr DPP i gefnogi athrawon trwy weithredu’r prosiect, ac i drafod pwysigrwydd hyder gyrfa ar lefel gynradd.
Ymgysylltiad gyda theuluoedd: Mae croeso i rieni wylio’r sioe hefyd os all yr ysgol trefnu hynny. Bydd cwis ar-lein ar gael i ddisgyblion gwblhau adref gyda’u teuluoedd, sy’n eu hannog i adnabod eu cryfderoedd personol a datblygu hyder gyrfa.
Trosolwg ar y prosiect
Cefnogaeth Gwricwlwm: Mae’r prosiect yn cefnogi gweithrediad gofynion Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Dim cost i ysgolion: Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n llawn gan Science and Technology Facilities Council (UKRI).
Cyflwyniad dwyieithog: Ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Hawdd i’w integreiddio: Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu rhoi i chi, ac maent wedi’u creu fel eu bod yn gallu ffitio’n hawdd i mewn i’ch dysgu arferol.
Mae’r prosiect yma ar gael am ddim i ysgolion cynradd yng Nghymru. Gallech chi ymuno â’r prosiect unrhyw bryd rhwng mis Medi 2024 a mis Ionawr 2026, ac mae lleoedd yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. I fynegi diddordeb ar ran eich ysgol chi, dilynwch y linc isod!
Prosiect gyrfaoedd STEM ar gyfer eich disgyblion blwyddyn 5, wedi’i aiannu’n llawn
Mae’n bleser i wahodd eich ysgol i gymryd rhan yn Person STEM yr Wythnos Cymru – prosiect gyrfaoedd STEM diddorol, sydd ar gael i ysgolion ar draws Cymru. Mae’r prosiect yma, sy’n cael ei gyflwyno gan Science Made Simple mewn partneriaeth gyda nustem (Prifysgol Northumbria), yn anelu at ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd mean STEM.