Mae eich plentyn yn cymryd rhan yn y prosiect Person STEM yr Wythnos yn yr ysgol. Mae 50 o ysgolion cynradd yng Nghymru yn cymryd rhan rhwng 2024-26. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y prosiect a rhoi ffordd i gymryd rhan gartref. Mae hefyd yn dweud wrthych am werthusiad y prosiect a sut i optio allan os na ddymunwch i’ch plentyn gymryd rhan.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan Science Made Simple a nustem (Prifysgol Northumbria). Ariannir y prosiect gan Science and Technology Facilities Council (UKRI), ac mae ar gael am ddim i’r holl ysgolion a phlant sy’n cymryd rhan.
Beth yw STEM?
Mae STEM yn ffordd fyr o ddweud Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Gwybodaeth am y prosiect
Mae’r prosiect yn cynnwys sioe ryngweithiol, hwyl a sbri yn yr ysgol, posteri a gweithgaredd dosbarth gyda gwybodaeth am fodelau rôl STEM, a chyfle i ymuno gartref gyda’r teulu.
Bydd eich plentyn yn dysgu am rai o bobl sy’n gweithio mewn swyddi STEM sydd â chysylltiadau i Gymru, fel tyfu i fyny yng Nghymru a mynd i’r ysgol yno. Bydd plant yn dysgu ychydig am swyddi pob model rôl, ac am ba fath o berson ydyn nhw – beth maen nhw’n hoffi ei wneud a pha nodweddion personoliaeth sydd ganddyn nhw sy’n eu helpu i wneud eu swyddi.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i helpu plant ysgol gynradd i sylwi ar y nodweddion personoliaeth maen nhw’n eu rhannu â phobl sy’n gweithio mewn swyddi STEM. Er mwyn dysgu mwy am y prosiect, darllenwch ymlaen yma….
Trwy’r prosiect, rydym yn gobeithio helpu plant o oedran ifanc i weld y gallai pobl sy’n gweithio ym meysydd STEM fod ‘yn union fel fi’, gyda’r un nodweddion a chefndiroedd tebyg. Rydym yn enwedig yn gobeithio i helpu plant sy’n byw yng Nghymru i weld y gallai pobl sy’n gweithio mewn gyrfaoedd STEM fod yn ‘Gymraeg, yn union fel fi’.
Mae eich ysgol yn cymryd rhan yn ein gwerthusiad i’n helpu i weld a ydym yn cyflawni’r hyn yr ydym yn ei obeithio. Gofynnir i’ch plentyn gwblhau arolwg papur syml ar ddechrau a diwedd y prosiect. Caiff hyn ei arwain gan eu hathro/athrawes a gall y plant weithio gyda’i gilydd a chael cymorth.
Nid yw’r holiaduron yn gofyn i’ch plentyn am eu henw na gwybodaeth am eu dosbarth. Dim ond oedran a rhywedd. Mae’n gwbl ddienw. Mae’n syml iawn ac yn hwyl! Gallwch edrych ar yr holiaduron gwerthusiad trwy clicio’r linciau isod.
Os rydych yn hapus i’ch plentyn gymryd rhan yn y gwerthusiad, does dim angen i chi wneud unrhywbeth!
Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gymryd rhan yng ngwerthusiad prosiect Person STEM yr Wythnos, cliciwch ar y botwm ar waelod y dudalen i gwblhau’r ffurflen optio allan. Ni fydd optio allan o’r gwerthusiad yn effeithio ar eich plentyn yn cymryd rhan yn y prosiect ei hun, ond ni fyddwn yn cynnwys eu hymatebion i’r arolwg yn ein gwerthusiad.
Mae eich plentyn yn cymryd rhan yn y prosiect Person STEM yr Wythnos yn yr ysgol. Mae 50 o ysgolion cynradd yng Nghymru yn cymryd rhan rhwng 2024-26. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y prosiect a rhoi ffordd i gymryd rhan gartref. Mae hefyd yn dweud wrthych am werthusiad y prosiect a sut i optio allan os na ddymunwch i’ch plentyn gymryd rhan.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan Science Made Simple a nustem (Prifysgol Northumbria). Ariannir y prosiect gan Science and Technology Facilities Council (UKRI), ac mae ar gael am ddim i’r holl ysgolion a phlant sy’n cymryd rhan.
Beth yw STEM?
Mae STEM yn ffordd fyr o ddweud Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Gwybodaeth am y prosiect
Mae’r prosiect yn cynnwys sioe ryngweithiol, hwyl a sbri yn yr ysgol, posteri a gweithgaredd dosbarth gyda gwybodaeth am fodelau rôl STEM, a chyfle i ymuno gartref gyda’r teulu.
Bydd eich plentyn yn dysgu am rai pobl sy’n gweithio mewn swyddi STEM sydd â chysylltiadau i Gymru, fel tyfu i fyny yng Nghymru a mynd i’r ysgol yno. Bydd plant yn dysgu ychydig am swyddi pob model rôl, ac am ba fath o berson ydyn nhw – beth maen nhw’n hoffi ei wneud a pha nodweddion personoliaeth sydd ganddyn nhw sy’n eu helpu i wneud eu swyddi.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i helpu plant ysgol gynradd i sylwi ar y nodweddion personoliaeth maen nhw’n eu rhannu â phobl sy’n gweithio mewn swyddi STEM. Er mwyn dysgu mwy am y prosiect, darllenwch ymlaen yma….
Trwy’r prosiect, rydym yn gobeithio helpu plant o oedran ifanc i weld y gallai pobl sy’n gweithio ym meysydd STEM fod ‘yn union fel fi’, gyda’r un nodweddion a chefndiroedd tebyg. Rydym yn enwedig yn gobeithio i helpu plant sy’n byw yng Nghymru i weld y gallai pobl sy’n gweithio mewn gyrfaoedd STEM fod yn ‘Gymraeg, yn union fel fi’.
Mae eich ysgol yn cymryd rhan yn ein gwerthusiad i’n helpu i weld a ydym yn cyflawni’r hyn yr ydym yn ei obeithio. Gofynnir i’ch plentyn gwblhau arolwg papur syml ar ddechrau a diwedd y prosiect. Caiff hyn ei arwain gan eu hathro/athrawes a gall y plant weithio gyda’i gilydd a chael cymorth.
Nid yw’r holiaduron yn gofyn i’ch plentyn am eu henw na gwybodaeth am eu dosbarth. Dim ond oedran a rhywedd. Mae’n gwbl ddienw. Mae’n syml iawn ac yn hwyl! Gallwch edrych ar yr holiaduron gwerthusiad trwy clicio ar y linciau isod.
Os rydych yn hapus i’ch plentyn gymryd rhan yn y gwerthusiad, does dim angen i chi wneud unrhywbeth!
Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gymryd rhan yng ngwerthusiad prosiect Person STEM yr Wythnos, cliciwch ar y botwm ar waelod y dudalen i gwblhau’r ffurflen optio allan. Ni fydd optio allan o’r gwerthusiad yn effeithio ar eich plentyn yn cymryd rhan yn y prosiect ei hun, ond ni fyddwn yn cynnwys eu hymatebion i’r arolwg yn ein gwerthusiad.
Cymerwch rhan gartref!
Os hoffech ddysgu ychydig mwy am ein modelau rôl STEM – a gwneud gweithgaredd i helpu eich plentyn i ystyried y sgiliau sydd ganddyn nhw – cliciwch y botwm isod i weld ein tudalennau teulu.
Rydym yn defnyddio’r tudalennau teulu i weld faint o bobl sydd wedi ymweld â’r gwefan, ond nid ydym yn casglu unrhyw gwybodaeth bersonol amdanoch chi na’ch plentyn.












