Meddwl-agored
Rydw i’n barod i wrando ar syniadau newydd, ac rwy’n parchu safbwyntiau a barnau gwahanol.
Creadigol
Rydw i’n gallu creu pethau newydd ac mae gen i syniadau gwreiddiol
Cyfathrebwr
Rydw i’n gallu rhannu gwybodaeth a syniadau gydag eraill
Ysgol
Dyma ble es i i’r ysgol…
Ysgol Bryn Collen, Llangollen
Ysgol Dinas Bran, Llangollen
Yn yr ysgol roeddwn i’n hoffi…
Dysgu am hanes
Gwneud gweithgareddau ar y cyfrifiadur


Rydw i’n hoffi…
Pethau tu fas – nofio, dringo, cerdded, mynd mewn kayak
Pethau tu fewn – darllen, pobi
Ffeithiau amdanaf i…
Fel plentyn roeddwn i yn y Scouts!
Fy hoff le i fynd yw parc genedlaethol Eryri

Fy swydd…
Rydw i’n…
Peiriannydd Cryogeneg
Mae peiriannau’n gallu mynd yn boeth iawn yn y gofod. Rydw i’n dylunio a phrofi systemau i oeri pethau am brosiectau gwyddonol ar y Ddaear ac yn y gofod, lloerennau yn bennaf.
Rydw i’n credu ei fod yn anhygoel bod y pethau rydw i’n gweithio arnynt yn mynd i fynd lan i’r gofod. Pan fod yna broblemau, mae’n rhaid i mi fod yn feddwl-agored ac edrych ar nifer o ddatrysiadau posib. Mae’n rhaid i mi fod yn greadigol a meddwl am ddatrysiadau a dyluniadau unigryw. Rydw i’n gallu esbonio fy syniadau yn glir i eraill arf y nhîm achos fy mod yn gyfathrebwr da.










