Hunan-gymhellol
Rydw i’n hoffi gwneud pethau i mi fy hun, heb i unrhywun ddweud i fi sut i wneud nhw.
Gwydn
Rydw i’n gallu adfer yn gyflym ar ôl gwneud pethau anodd neu heriol.
Trefnus
Rydw i’n gallu cynllunio’n dda i sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud
Ysgol
Dyma ble es i i’r ysgol…
Ysgol Gymraeg Llundain – mae fy nheulu’n dod o Gaerfyrddin ond wnes i dyfu lan yn Llundain
n yr ysgol roeddwn i’n hoffi…
Darllen
Canu


Rydw i’n hoffi…
Rydw i’n dysgu pobl i ganu ac nawr yn cyfarwyddo fy nghôr.
Darllen, darllen, darllen! Rydw i’n darllen cannoedd o lyfrau bob blwyddyn!
Ffeithiau amdanaf i…
Rydw i’n hoffi canu mewn côr!
Fel plentyn es i i Gapel Seion Ealing (capel Cymraeg yn Llundain)
Fy swydd…
Rydw i’n…
Peiriannydd meddalwedd
uwch
Rydw i’n arwain tîm o ddatblygwyr meddalwedd sy’n edrych ar ôl systemau cyfrifiadurol i wyddonwyr. Rydw i’n treulio fy amser yn ysgrifennu llawer o gôd cyfrifiadurol.
Rydw i’n mwynhau datrys problemau ac mae hynny’n fy helpu i ysgrifennu côd cyfrifiadurol yn fy swydd. Pan dydy rhywbeth ddim yn gweithio, rydw i’n wydn a dydw i ddim yn rhoi’r gorau iddi nes fy mod i wedi datrys y problem. Rydw i’n drefnus ac yn sicrhau bod prosiectau pawb yn rhedeg yn esmwyth trwy gynllunio pethau yn fanwl.










