Dychmygus
Rydw i’n gallu meddwl am syniadau newydd a diddorol
Angerddol
Mae gen i deimladau cryf am yr hyn sydd yn ddiddorol i fi
Sylwgar
Rydw i’n gyflym i weld pethau, ac yn gallu rhoi sylw ar y pethau rwy’n ei weld
Ysgol
Dyma ble es i i’r ysgol…
Ysgol Nant y Coed, Conwy
Ysgol Aberconwy
Yn yr ysgol roeddwn i’n hoffi …
Mathemateg y Ffrangeg


Rydw i’n hoffi
Rydw i’n byw yn agos at y môr a’r mynyddoedd yng Ngogledd Cymru felly rydw i’n hoffi mynd allan a rhedeg pellteroedd hir.
Ffeithiau hwyl
Rydw i’n siarad Cymraeg a Saesneg

Fy swydd
Rydw i’n...
Peiriannydd meddalwedd
ymchwil
Mae’r côd cyfrifiadurol rydw i’n ei ysgrifennu yn helpu i efelychu arbrofion cemeg gan ddefnyddio uwch-gyfrifiaduron mawr iawn. Un diwrnod efellai byddwn yn rhedeg côd i helpu datblygu shampoo newydd, y diwrnod nesaf byddwn yn defnyddio cyfrifiadur cwantum er mwyn dod o hyd i feddyginiaethau newydd.
Rydw i’n ysgrifennu côd sy’n rhedeg arbrofion ar uwch-gyfrifiaduron. Rydw i’n meddwl yn ofalus am heriau yn y byd go-iawn, ac wedyn yn dod lan â datrysiadau dychmygus gan ddefnyddio côd cyfrifiadurol. Rydw i’n angerddol am fy ngwaith, ac yn mwynhau’r her o ddefnyddio fy sgiliau ar brosiectau. Rydw i’n sylwgar ac wastad yn edrych yn ofalus ar fy nghôd i sicrhau fy mod yn gweld unrhyw camgymeriadau cyn iddyn nhw achosi problemau.










